
|
Mae Plaid Cymru wedi tristhau o glywed y newyddion am farwolaeth Gwynfor Evans. Mae'r newydd wedi ei dderbyn a thristwch mawr gan bawb ym Mhlaid Cymru sydd wedi eu hysbrydoli gan Gwynfor dros y blynyddoedd, i weithio dros Gymru ac i greu cenedl y gallwn fod yn falch ohonni. "I'r hen a'r ifanc, roedd Gwynfor Evans yn arweinydd ysbrydol ac fe fydd yn parhau i fod. Mae'n amhosibl gor-bwysleisio cyfraniad unigryw Gwynfor i adeiladu Plaid Cymru i'r blaid ydi hi heddiw. Ef oedd pensaer y Blaid Cymru fodern ac fe droth y blaid i fod yn rym etholiadol credadwy pan gafodd ei ethol yn Aelod Seneddol yn 1966. "Mae ei ddylanwad i'w deimlo ymhell tu hwnt i ffiniau gwleidyddiaeth bleidiol. Ni fyddai Cymru y wlad yw hi heddiw - yn wir mae'n bosib na fyddai yn wlad o gwbwl - heb waith a dyfalbarhad Gwynfor.Roedd yn arweinydd cenedlaethol ymhob ystyr y gair. Bydd colled fawr ar ol ei ddoethineb a'i arweiniad ond bydd ei ysbrydoliaeth yn aros gyda ni am byth. Dafydd Iwan, Llywydd Jill Evans, Is-lywydd |
|
TEYRNGED I GWYNFOR |

|
© 2005 Harri Roberts Cynlluniwyd y wefan gan Harri Roberts adre@harrir.com 07866 383420 Website developed by Harri Roberts home@harrir.com 07866 383420 |
|
I gysylltu a ni / To contact us: |
|
Ffôn: 01792 477765 Ebost - email: adre@plaidcymru-abertawe.com |
|
Gorllewin Abertawe |
|
Swansea West |


